Description
Er gwaethaf y berw Ôl-Fodernaidd a welwyd yn ystod yr 1990au, prin fu’r sylw a roed i theori lenyddol yng Nghymru. Prinnach fyth ydyw’r beirniaid llenyddol Cymraeg a fentrodd i fyd dieithr theori beirniadaeth lenyddol. Y mwyaf gwreiddiol a thoreithiog o’n beirniaid llenyddol yw R. M Jones, a ddisgrifiwyd yn ddiweddar fel yr unig feirniad o statws Ewropeaidd sy’n ysgrifennu yn Gymraeg. Dros y degawdau diwethaf bu’n gweithio ar fenter arloesol mewn beirniadaeth lenyddol a ddisgrifiwyd eto fel y fenter fwyaf o’i bath yn hanes beirniadaeth Gymraeg. Cyhoeddodd gyfres o gyfrolau, bob un ohonynt yn rhan o’i ymgais i ddatblygu beirniadaeth lenyddol o safbwynt theoretig penodol a’i diffinio fel genre. Cyhoeddodd weithiau a oedd yn cymhwyso theorïau ieithyddol i fyd llenyddiaeth cyn i theorïau o’r fath gael eu mabwysiadu gan feirniaid Eingl-Americanaidd adnabyddus megis Culler. Eithr ni dderbyniodd sylw haeddiannol yn rhyngwladol hyd yma; adlewyrchiad o’r anfantais o gyhoeddi mewn iaith leiafrifol efallai. Yn ei gyfrolau gwelwn drafodaeth wreiddiol ar lenyddiaeth sy’n bur wahanol i’r math o feirniadaeth a welir yn Gymraeg gan amlaf, sy’n un rheswm efallai paham na chafodd ei sylw haeddiannol mewn cylchoedd llenyddol Cymraeg ychwaith. Er aruthredd a gwreiddioldeb gyrfa lenyddol ac academaidd Bobi Jones, prin fu’r sylw a roddwyd i’w waith ar lefel Cenedlaethol na Rhyngwladol. Fe’i hesgeuluswyd gan genhedlaeth o feirniaid na allent ddirnad na chyd weld â’i safbwyntiau llenyddol. Mae’r gyfrol hon felly yn ymgais i osod y ddysgl yn wastad, gan ymdrin â’i fenter i ddiffinio natur llenyddiaeth ar ei hyd am y tro cyntaf erioed.
More Information
Rights Information
World; L ex wel
University of Wales Press
University of Wales Press believes in supporting and disseminating scholarship from and about Wales to a worldwide audience. They mainly publish books in the humanities, arts and sciences.
View all titlesSeries Part
Bibliographic Information
- Publisher University of Wales Press
- Publication Date December 2009
- Orginal LanguageWelsh
- ISBN/Identifier 9780708322468
- Publication Country or regionUnited Kingdom
- FormatPaperback
- Primary Price 18.98 GBP
- Pages304
- Publish StatusPublished
- SeriesY Meddwl a’r Dychymyg Cymreig
University of Wales Press has chosen to review this offer before it proceeds.
You will receive an email update that will bring you back to complete the process.
You can also check the status in the My Offers area

Please wait while the payment is being prepared.
Do not close this window.